Y Goeden a’r Afal
Mae’r fam goeden ar yr ynys yn tyfu mewn cilfach fach ar
ymyl y tŷ. Cafodd ei “thocio” gan stormydd hallt
ac o ganlyniad mae’n gorwedd yn wastad yn erbyn wal y gilfach
yma. Mae blagur sy’n ceisio tyfu allan o’r gilfach yn
cael eu lladd gan yr halen yn y pendraw. Mae’r goeden wedi
tyfu i fyny a throsodd i’r to lle y mae wedi cael ei “thocio’n”
wastad gan y gwynt.
Gan fod y goeden yng nghanol y gilfach, mae’n debygol fod
rhywun wedi ei phlannu yno. Does neb yn gwybod ei hoed. Ernest (yn
ei 70au bellach) oedd yr olaf i gael ei eni ar Ynys Enlli a dywed
fod y goeden "wedi bod yno erioed". Adeiladwyd y tŷ
gan Arglwydd Niwbwrch yn 70au’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Hyd yma does dim gwybodaeth gen i ynghylch tarddiad y goeden na’i
hanes.
Clywais yn ddiweddar mai "Afal Myrddin” oedd y goeden.
Ar y llechwedd uwch ben y tŷ mae yna ogof lle y claddwyd Myrddin
y Brenin Arthur mewn cist wydr, yn ôl y chwedl.
Dwi ddim wedi llwyddo i gael yr un o’m plant i fynd ar eu
pedwar i mewn i geg cul yr ogof i weld a yw hyn yn wir neu beidio.
Siâp y goeden
Does neb yn gwybod beth yw siâp coeden Enlli sy’n tyfu
ar ei phen ei hun. Mae rhai mathau o afal yn tyfu i fyny’n
syth iawn, tra bod mathau eraill yn pendrymu fwy.
Bydd rhaid ini aros am sawl blwyddyn cyn y byddwn ni’n gwybod
rhagor am siâp coeden Afal Enlli gyffredinol.
Egni’r goeden
Mae rhai coed yn tyfu’n egnïol iawn tra bod rhai coed
eraill yn tyfu’n wan. Does neb yn gwybod pa mor egnïol
y mae coed Ynys Enlli’n tyfu.
Blagur ffrwythau
Mae’r goeden yn cynhyrchu llawer o sbardunau ffrwythau ac
mae’n cynhyrchu blagur ar y sbardunau hyn.
Pellio
Does neb yn gwybod a yw’r goeden yn hunanffrwythlon neu a
oes angen paill o goeden afalau arall. Mae yna rhai coed afalau
ar y fferm ar ben pella’r ynys.
Blodeuo
Mae’r blodau’n hollol wyn bron ac mae’r goeden
yn blodeuo’n weddal gynnar – grŵp blodeuo B (yn
seiliedig ar 1 flwyddyn o gofnodion ym Mangor, Gogledd Cymru). Does
neb yn gwybod a yw’r goeden yn gallu gwrthsefyll rhew. Dyw
Ynys Enlli ei hun fyth yn rhewi.
Y Ffrwythau
Roedd y ddau afal a gafodd eu harchwilio gan Joan Morgan o liw
hufen a streipiau pinc, gydag asennau (ribbed) a choron ac roeddent
yn ogleuo o lemwn.
Mae’r afalau o’r goeden ar yr ynys yn fach ac yn afreolaidd.
Roedd y 15 o ffrwythau a gafodd eu tyfu ar y prifdir (yn 2003) yn
llawer mwy rheolaidd o ran siâp ac yn fwy - tua maint afal
o’r archfarchnad.
Hel y ffrwythau
Mae ein profiad cyfyngedig iawn yn awgrymu y dylid hel y ffrwythau
tua dechrau mis Hydref.
Storio
Roedd y ffrwythau o’r ynys yn dda i’w bwyta o ganol
mis Hydref tan y Nadolig. Byddwn yn darganfod yr union ddyddiadau
yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Coginio
Wedi ei goginio mae’r afal yn troi’n fflwff euraid
golau ac ysgafn. Does dim angen siwgwr.
Sudd
Sudd rhagorol pincaidd o liw gwellt. Dwi’n credu y bydd ffrwythau
ar y prifdir yn fwy o ran maint ac yn cynnwys mwy o sudd na ffrwythau
o’r ynys.
Seidr
Dim gwybodaeth
Haint
- Crach (scab) – mae’r fam goeden a’r ffrwythau
yn rhydd o grach. Does dim arwyddion o grach ar fy nghoed i ar
y prifdir sy’n tyfu mewn perllan crachaidd iawn yng Ngogledd
Cymru.
- Cancr - mae’r fam goeden yn rhydd o gancr er gwaetha’r
ffaith fod llawer o’r canghennau’n rhwbio yn erbyn
wal y tŷ a bod llawer o’i blagur wedi cael eu torri
gan y gwynt.
Does dim arwyddion o gancr ar bren coeden Afal Enlli sy’n
tyfu mewn mewn perllan cancraidd iawn yng Ngogledd Cymru.
- Llwydni – dyw’r haint yma ddim yn gyffredin yng
Ngogledd Cymru (mae’n rhy oer ac yn rhy wlyb). Ond mewn
gardd â waliau yng Nghastell Penrhyn mae gan sawl coeden
ifanc (e.e. Charles Ross, Greensleeves ac Egremont russet) lwydni.
Mae coeden Ynys Enlli yn rhydd o lwydni.
- Mae’r goeden ar yr ynys yn dioddef yn enbyd o wyfyn Tortrix
– dwi ddim yn gwybod am unrhyw goeden arall ar Ynys Enlli
â’r broblem yma. Does dim problemau eraill o ran heintiau
wedi cael eu hastudio neu eu cofnodi eto.
|