Tyfu
DEWIS LLEOLIAD
Pan fyddwch chi’n plannu ac yn gofalu am eich coeden cofiwch
y pethau canlynol:
Dyw tywydd a hinsawdd Ynys Enlli ddim yr un fath â gweddill
Gogledd Cymru; mae’n ynys allan i’r môr gyda’i
thywydd unigryw ei hun. Pan fyddwch chi’n dewis lleoliad i’ch
coeden, dwi’n creu y byddai’n ddoeth i ystyried hyn.
Plannwch y goeden yn erbyn wal sy’n wynebu’r de er enghraifft.
Gwnewch hi’n bosibl i ddigon o aer allu symud o amgylch a
thrwy’r goeden. Bydd safle cynnes ac aerog yn helpu lleihau’r
tebygrwydd o grach (scab) ar y ffrwythau ac yn atal cancr rhag achosi’r
pren i wywo.
Mae angen lleithder ar y ffyngau hyn os ydyn nhw’n mynd i
ffynnu. Hyd yma, does neb yn gwybod a yw’r goeden yn gallu
gwrthsefyll heintiau neu a yw’n rhydd o heintiau oherwydd
hinsawdd unigryw’r ynys.
Er nad yw’r aer hallt wedi lladd y fam goeden, dyw hynny ddim
yn golygu ei bod yn gallu ymdopi â halen mewn gwirionedd.
Byddwch yn ddiogel a phlannwch eich coeden i ffwrdd o’r môr.
Os hoffech chi blannu rhywbeth ar y traeth, rhowch gynnig ar gneuen
coco.
Dyw Ynys Enlli ddim yn cael rhew. Fel canlyniad, mae’n bosibl
y gallai’ch coeden gael ei niweidio gan rew. Osgowch bocedi
rhew pan fyddwch chi’n dewis eich safle.
Dwi ddim yn gwybod a yw’r fam goeden ar yr ynys yn cael ei
pheillio (pollinate), ond dwi’n credu ei bod yn well cymryd
nad yw hi’n hunanffrwythlon. Ychydig iawn o fathau o goed
afalau sy’n hunanffrwythlon; mae angen math arall arnyn nhw,
un sy’n blodeuo ar yr un amser i groes-beillio. Yn amlwg,
mae gennych chi fwy o gyfle i lwyddo os oes nifer o ‘beillwyr’
posibl gerllaw.
Mae’n well gan goed afalau bridd dwfn, cleiog, wedi ei ddraenio’n
dda ac ychydig yn asidaidd, ac ar lethr sy’n wynebu’r
de os yw hynny’n bosibl. Dyw hyn ddim yn wir o gwbl o ran
y fam goeden. Credaf y byddai’n well rhoi’r pridd a’r
safle gorau posibl i’r goeden. Peidiwch â cheisio efelychu’r
pridd y mae’r fam goeden yn tyfu arno ar yr ynys.
Mae Ynys Enlli’n eithriadol o wyntog. Mae’r goeden ei
hun yn yn tyfu mewn cilfach lled gysgodol ar ymyl tŷ. Dwi’n
credo y byddai’n anghywir i gymryd y byddai’ch coeden
chi yn tyfu’n dda mewn safle eithriadol o agored.
Mae’r fam goeden ar yr ynys yn dioddef yn enbyd o lindys gwyfyn
Tortrix. Ar hyn o bryd wyddon ni ddim a yw’r goeden yn arbennig
o agored i ddifrod gan y gwyfynnod. Hwyrach nad oes gan y lindys
ar yr ynys ddim byd gwell i’w wneud.
GWREIDDGYFFIAU (ROOT STOCKS)
Mae’r coed wedi cael eu ‘grafftio’ ar amrywiaeth
o wreiddgyffiau. Os cymerwn ni fod coeden Ynys Enlli yn tyfu yn
weddol egnïol, yna bydd y tabl isod yn rhoi syniad o ba mor
fawr fydd eich coed chi a pha bryd y byddan nhw’n ffrwytho.
Gwreiddgyff |
Uchder a lled (troedfeddi) |
Oed pan fydd y goeden yn ffrwytho |
Anghori |
Stanciau |
Glaswellt ar lawr perllan |
| M27 |
4 |
3 |
Gwael iawn |
Oes gyfan y goeden |
Angen pridd glân |
| M9 |
7 |
4 |
Gwael |
Oes gyfan y goeden |
Angen pridd glân |
| M26 |
12 |
5 |
Gweddol |
Y 4 blynedd cyntaf |
Glaswellt byr yn iawn unwaith y bydd wedi ymsefydlu |
| MM106 |
16 |
6 |
Da |
Y 2 flynedd cyntaf |
Glaswellt hir yn iawn unwaith y bydd wedi ymsefydlu |
| M25 |
22 |
7 |
Da iawn |
Amherthnasol |
Dim problem |
RHYBUDD. Mae’n ymddangos bod y goeden yn dwyn ffrwyth yn
eithriadol o gynnar. Mae’n gallu cynhyrchu blagur ffrwythau
ar bren un flwydd oed. Rhwbiwch nhw allan. Os yw’r goeden
yn cynhyrchu ffrwythau’n rhy fuan yn ei hoes bydd yn blino.
Byddwch yn gallu ymweld â gwefan Ian Sturrock a’i Feibion
i gael rhagor o wybodaeth cyn bo hir.
PLANNU, CYFEIRIO, TOCIO, HEL AFALAU, STORIO
Gofynnwch i unrhyw berllannwr am unrhyw un o’r pynciau uchod
a byddwch yn sicr o gael 10 ateb gwahanol!
Yn lle ychwanegu unfed ateb ar deg dwi’n awgrymu eich bod
yn darllen:
THE FRUIT EXPERT gan Dr.Hessayon am £4.95....... llyfr clasurol
da a rhad gyda deiagramau clir iawn
FRUIT gan Harry Baker am £8.99...... Arweiniad hollgynhwysfawr
gan yr RHS gyda llinluniau manwl gywir a rhagorol
TRAINING & PRUNING OF APPLE AND PEAR TREES am $29.95 gan CG
FORSHEY
Ar gael drwy gyfrwng y Rhyngrwyd yn unig. Mae’n eithriadol
o fanwl ac academaidd, ac mae aralleiriad ohono ar wefan TRAINING
& PRUNING OF APPLE TREES
available only via the internet. Extremely detailed and academic,
gweler y ddau gofnod cyntaf ar dudalen Dolennau.
|