Cyflwyniad
Mae gan Gymru ddau benrhyn mawr amlwg: Llŷn yn y Gogledd
a Phenfro yn y De. Rhwng y ddau ohonynt mae ehangder Bae Ceredigion.
Ddwy filltir allan i’r môr o ben eithaf Penrhyn Llŷn
mae Ynys Enlli.
Mae Ynys Enlli wedi bod yn gysylltiedig â gweithgareddau crefyddol
ers amser maith. Roedd Celtiaid cyn Oes y Rhufeiniaid yn ymweld
â’r ynys i weddio ac yn aml i farw ar hon, yr ynys fwyaf
gorllewinol, wrth iddyn nhw ddilyn yr haul wrth iddo fachlud. Yn
ystod dyddiau’r Cristnogion cynnar roedd Ynys Enlli’n
ben taith pererindod. Mae llwybr pererinion yn rhedeg ar hyd arfordir
Gogledd Cymru gyda llinyn o eglwysi wedi eu hadeiladu ar hyd y ffordd.
Yn wir, roedd tri phererindod i Ynys Enlli’n werth un i Rufain.
Roedd unrhyw un a oedd yn cael ei gladdu ar yr ynys yn sicr o iachawdwriaeth
dragwyddol.
Ar yr ynys ei hun mae adfeilion abaty o’r drydedd ganrif ar
ddeg yn ogystal â mynwent fawr. Mae llawer o bobl yn dal i
ddefnyddio’r ynys fel encilfan crefyddol.
Mae’r ynys o ddiddordeb i adarwyr hefyd gan ei fod yn rhywle
i orffwys i lawer o adar sy’n mudo. Y gwylfan adar ar Ynys
Enlli oedd yr un cyntaf yn y Deyrnas Unedig.
Yn 1998 roedd fy ffrind Andy Clarke yn defnyddio rhwyd niwl i ddal
adar i’w modrwyo. I ddenu’r adar i’w rwyd aeth
i godi afalau a oedd yn gorwedd o dan hen goeden gnotiogn a oedd
yn tyfu i fyny ochr un o dai’r ynys o’r enw Plas Bach.
Sylwodd Andy, sy’n arddwr organig o fri, fod y ffrwythau a’r
goeden yn rhydd o heintiau, rhywbeth anarferol iawn yng Ngogledd
Cymru. Wedyn, daeth Andy â sawl un o’r afalau i mi i
geisio rhoi enw arnynt. Doeddwn i ddim yn adnabod yr afalau a wedi
hynny anfonais y ffrwythau i’r Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol
yn Brogdale yn Swydd Caint lle y dywedodd Dr Joan Morgan, hanesydd
ffrwythau fwyaf blaenllaw’r wlad, fod y ffrwythau a’r
goeden yn unigryw. "Y goeden brinnaf yn y byd" oedd cri’r
cyfryngau.
Dwi wedi tyfu coed o’r fam goeden ar yr ynys erbyn hyn. Hyd
yma does dim gwybodaeth gennym ynghylch sut y mae’r goeden
yn gwneud ar y prifdir. Dwi’n gobeithio defnyddio’r
wefan yma i gydgasglu gwybodaeth am y goeden a’i ffrwyth.
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am goeden Enlli neu ei ffrwythau,
a fyddech garediced â defnyddio’r Bwrdd Bwletinau.
|